Teitl y grŵp trawsbleidiol: |
Y Sector Gweithgareddau Awyr Agored yng Nghymru |
Dyddiad y cyfarfod: |
29 Mawrth 2023 |
Lleoliad: |
Drwy Zoom |
Enw: |
Teitl: |
Sam Rowlands (SR) |
Cadeirydd – Aelod o'r Senedd |
Huw Irranca-Davies (HI-D) |
Is-gadeirydd – Aelod o'r Senedd |
Cefin Campbell |
Aelod o’r Senedd |
Paul Donovan |
Ysgrifenyddiaeth |
Rebecca Brough |
Ysgrifenyddiaeth – Ramblers Cymru |
Harry Davies |
Swyddfa Huw Irranca Davies AS |
Dave Harvey |
Ymchwilydd i Sam Rowlands AS |
Tom Luddington |
Aelod – Cynrychiolydd, Fforwm Arfordirol Sir Benfro |
Eben Muse |
Aelod – Cynrychiolydd, Cyngor Mynydda Prydain |
Kate Ashbrook |
Aelod – Cynrychiolydd, Cymdeithas y Mannau Agored |
Catherine Williams |
Aelod – Cynrychiolydd, Eryri-Bywiol a Sefydliad Twristiaeth Antur Cymru |
Mark Weston |
Aelod – Cynrychiolydd, Cymdeithas Ceffylau Prydain |
Helen Donnan |
Aelod – Cynrychiolydd, Cymdeithas Ceffylau Prydain |
Kathryn Stewart |
Aelod – Cynrychiolydd, Cymdeithas Ceffylau Prydain |
Andy Taylor |
Aelod – Cynrychiolydd, Pwyllgor Cynghorol y Diwydiant Gweithgareddau Antur a Gwerin y Coed |
Mark Jones |
Aelod – Cynrychiolydd, Y Bartneriaeth Awyr Agored |
Mike Rosser |
Aelod – Cynrychiolydd, Panel Cynghorwyr Addysg Awyr Agored Cymru ac Adventure UK |
Emma Edwards-Jones |
Aelod – Cynrychiolydd, Eryri-Bywiol |
Alison Roberts |
Sylwedydd – Cynrychiolydd, Cyfoeth Naturiol Cymru |
Phil Stone |
Aelod – Cynrychiolydd, Canŵ Cymru |
Sophia Gordon |
Aelod – Cycling UK |
Kieran Foster |
Aelod – Cycling UK |
Amanda Smith |
Aelod – Cynrychiolydd, CAT ZCB |
Paul Frost |
Aelod – Cynrychiolydd, Y Bartneriaeth Awyr Agored |
David Boden |
Aelod – Cynrychiolydd, Cymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain |
Emma Robinson |
Aelod – Y Gymdeithas Hostelau Ieuenctid |
Gareth Ludkin |
Aelod – Ymgyrch y Parciau Cenedlaethol |
Steve Rayner |
Aelod – Cynrychiolydd, Grŵp Darparwyr Gweithgareddau Awyr Agored De Cymru a Sefydliad Twristiaeth Antur Cymru |
Dawn Thomas |
Aelod – Cynrychiolydd, Sefydliad Dysgu Awyr Agored Cymru |
Rachel Cilliers |
Aelod – Cynrychiolydd, Rock UK |
Tracey Evans |
Aelod – Cynrychiolydd, Y Bartneriaeth Awyr Agored |
Paul Frost |
Aelod – Cynrychiolydd, Y Bartneriaeth Awyr Agored |
Paul Airey |
Aelod – Cynrychiolydd, Y Bartneriaeth Awyr Agored |
Graham French |
Aelod – Cynrychiolydd Gogledd Cymru, Cymdeithas Penaethiaid Canolfannau Addysg Awyr Agored Cymru |
Chris Pierce |
Aelod – Cynrychiolydd De Cymru, Cymdeithas Penaethiaid Canolfannau Addysg Awyr Agored Cymru |
Clare Adams |
Aelod – Panel Cynghorwyr Addysg Awyr Agored Cymru |
James Brinning |
Aelod – Cynrychiolydd Deryn, ar ran yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd |
Rhys Thomas |
Ymchwilydd i Sam Rowlands AS |
Michael Dauncey (MD) |
Comisiwn y Senedd |
Gareth Rogers (GR) |
Comisiwn y Senedd |
Crynodeb o'r cyfarfod
Derbyniwyd y cofnodion blaenorol fel rhai cywir.
Camau a gododd yn flaenorol:
· Diwygio mynediad: anfonwyd llythyr at Lesley Griffiths, y Gweinidog sy’n gyfrifol am fynediad, ynghylch y cynnig i dreialu cynllun peilot mewn perthynas â rhannu’r defnydd o dir cyhoeddus (diweddariad i’w weld o dan yr eitem sylweddol ar yr agenda).
· Diweddariad ar ymchwil i werth economaidd a chymdeithasol y sector awyr agored: Cafwyd cyllid gan Lywodraeth Cymru, ac mae cwmni Millar Research wedi cynnal arolwg a gwneud gwaith dadansoddi yn ystod mis Chwefror a mis Mawrth. Disgwylir i'r adroddiad ymchwil fod yn barod ym mis Ebrill.
· Dysgu ac Addysg Awyr Agored yng Nghymru – cyfarfod â’r Gweinidog Addysg (diweddariad i’w weld o dan yr eitem sylweddol ar yr agenda)
Diweddariad: Diwygio Mynediad a'r cynigion ar gyfer treialu’r cynllun peilot
Diweddariad gan Kate Ashbrook:
· Yn dilyn cyfarfod y grŵp trawsbleidiol â Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, ym mis Gorffennaf 2022 (pan oedd mynediad yn rhan o’i chylch gwaith), cytunodd aelodau’r Gynghrair Awyr Agored i gyflwyno cynigion ar gyfer camau anneddfwriaethol i symud yr agenda diwygio mynediad yn ei blaen.
· Ar ôl i Lesley Griffiths gymryd yr awenau o ran materion mynediad, ac yn dilyn gohebiaeth at ddibenion codi’r materion parhaus hyn, gwnaeth y Gweinidog wahodd awgrymiadau gennym parthed treialu cynllun peilot ar gyfer gwella a rhannu mynediad ar y tir a’r dŵr. Cafodd cynigion eu datblygu a'u hanfon at Lesley Griffiths ar 7 Mawrth.
· Roedd y cynigion hyn yn cynnwys awgrymiadau i dreialu’r mesurau a ganlyn: ehangu’r polisi presennol ar adnoddau coedwigaeth Cyfoeth Naturiol Cymru i gynnwys tir cyhoeddus hygyrch arall; ehangu mynediad ar gyfer ceffylau a beiciau i gynnwys llwybrau cyhoeddus; ehangu hawliau mynediad o dan y Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy i gynnwys gwersylla â sach deithio, a hawliau mynediad o ran ymdrochi a badau dŵr di-bŵer i gynnwys dŵr naturiol sy'n eiddo cyhoeddus.
· Tynnwyd sylw hefyd at bwysigrwydd addysg a chanolfannau addysg, mynediad y cyhoedd i'r economi, ac iechyd a lles pobl.
· Mae’r Bil Amaethyddiaeth yn gyfle arall i wella mynediad cyhoeddus. Ni chafodd gwelliannau sydd â’r nod o gryfhau’r cyfleoedd ar gyfer sicrhau cyllid amaethyddol i dalu am fynediad gwell eu trafod yn ystod Cyfnod 2, ond bydd cyfleoedd i’w trafod yn ystod Cyfnod 3.
· Dylid sicrhau bod taliadau amaethyddol yn cael eu defnyddio ar gyfer ariannu mynediad ehangach a gwell lle mae ei angen ar bobl, nid ar gyfer dyletswyddau cyfreithiol cyfredol. Mae'n bwysig bod gennym drefniadau gorfodi cryf fel y gellir cosbi ffermwyr a rheolwyr tir nad ydynt yn ufuddhau i’r gyfraith sy’n ymwneud â hawliau tramwy. Bydd hyn yn cynorthwyo’r broses o roi trefn ar y rhwydwaith llwybrau ac yn helpu awdurdodau lleol sydd o dan bwysau.
Roedd y pwyntiau trafod yn cynnwys y canlynol:
Pwysigrwydd creu cyfleoedd i bobl gael mynediad yn nes at eu cartrefi.
Rôl llwybrau a hyrwyddir o ran helpu defnyddwyr i wneud y defnydd gorau o unrhyw newidiadau i hawliau, a’r potensial ar gyfer cyllid ym maes twristiaeth i hwyluso hyn, sy’n arbennig o berthnasol ym ‘Mlwyddyn y Llwybrau’.
Cyfleoedd i ymgysylltu mwy ag Aelodau o’r Senedd ar y Bil Amaeth, gan gynnwys cymorth ar y broses o lunio cwestiynau i’r Senedd, a chyfleoedd yn ystod y dadleuon a gynhelir i godi materion ym maes mynediad (ar wahân i welliannau).
Diweddariad: Addysg a Dysgu Awyr Agored yng Nghymru
Diweddariad gan Clare Adams, Graham French a Mike Rosser:
· Ymwelodd y Gweinidog â chanolfan y Storey Arms i weld tystiolaeth uniongyrchol o'r gweithgarwch a'r gwaith ymgysylltu sy'n gysylltiedig â'r cwricwlwm sy'n mynd rhagddo ledled Cymru. Bu’r ymweliad yn gyfle i ddangos i’r Gweinidog pa mor bwysig yw rôl addysg awyr agored yng nghyd-destun addysg athrawon, sut y gall hyn gefnogi’r gwaith y mae athrawon yn ei wneud, a’r hyfforddiant a’r adnoddau sydd eu hangen.
· Roedd yn gyfle hefyd i dynnu sylw at ethos pwysig, sef y dylai dysgu awyr agored gael ei wreiddio yn y system yn hytrach na bod yn weithgarwch cyfoethogi neu wobrwyo yn unig. Roedd y trafodaethau'n ymwneud â darparu adnoddau a chymorth i ysgolion at ddibenion cyfeirio ac uwchsgilio athrawon a rhoi'r hyder a'r rhwydweithiau sydd eu hangen arnynt. Trafodwyd potensial HWB o ran rhannu a hyrwyddo adnoddau, yn ogystal â sut y gellir sicrhau bod manteision dysgu awyr agored o ran meithrin 'sgiliau bywyd' yn cael eu trafod a'u cydnabod. Mae trafodaethau parthed rhoi'r adnoddau a'r sgiliau hyn yn eu lle yn parhau.
· Mae’r system ar gyfer achredu athrawon yn destun adolygiad. Mae’r meini prawf terfynol gyda'r Gweinidog i'w cymeradwyo. Bydd y rhain yn pennu pa agweddau ar addysg awyr agored sy’n cael eu cynnwys mewn rhaglenni addysg athrawon.
· Mae symudiad cadarnhaol tuag at wneud mwy o waith partneriaeth ym maes addysg athrawon, a hynny er mwyn sicrhau bod gan athrawon yr offer sydd ei angen arnynt, a bod ganddynt fynediad at y sgiliau a’r adnoddau sydd eu hangen arnynt i ymgymryd ag ymweliadau awyr agored yn y dyfodol.
· Mae Gweithgor Llywodraeth Cymru a Phanel Cynghorwyr Addysg Awyr Agored Cymru yn datblygu hyfforddiant ar gyfer cydlynwyr ymweliadau addysg bellach (sef uwch reolwyr sy'n gyfrifol am gymeradwyo ymweliadau) a modiwlau e-ddysgu ar gyfer arweinwyr ymweliadau, gan lynu wrth arfer da o ran polisi, cynllunio a chynnal ymweliadau.
· Mae’r hyfforddiant hwn yn dilyn cais gan y Gweinidog Addysg fod Estyn yn cynnal adolygiad o bolisïau ym maes ymweliadau addysgol o fewn y sector addysg bellach, a hynny yn sgil marwolaeth dysgwr a oedd yn astudio mewn coleg yn ne Cymru yn ystod ymweliad addysgol â Barcelona yn 2011.
· Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu prosiect sy’n cynnwys cynrychiolwyr o’r holl grwpiau o golegau addysg bellach ledled Cymru ac aelodau o Banel Cynghorwyr Addysg Awyr Agored Cymru. Mae’n cael ei gadeirio gan Paul Airey, cyn-gynghorydd, ac yn cynnwys Mike Rosser, rheolwr prosiect, ac aelodau o Banel Cynghorwyr Addysg Awyr Agored Cymru, sef Arwel Elias, Andy Meek a Clare Adams, Cadeirydd y panel.
· Mae ar fin dechrau ar y cyfnod profi parthed darparu hyfforddiant wyneb yn wyneb, ac mae’r broses o gymeradwyo’r system e-ddysgu ar fin digwydd. Disgwylir i bob elfen fynd yn fyw ym mis Medi 2023.
· Mae'r gwaith hwn wedi creu cysylltiadau da rhwng darparwyr yn y sector addysg a’r sector awyr agored, gan gynnwys cyfleoedd cydweithio parhaus.
Pwyntiau trafod
Gall gwaith papur a biwrocratiaeth fod yn rhwystr i athrawon. Awgrymwyd y gallai Panel Cynghorwyr Addysg Awyr Agored Cymru, a’r cam o ddefnyddio canllawiau cenedlaethol, helpu gyda hyn. Mae’r canllawiau cenedlaethol yn cyfeirio at y Bathodyn Ansawdd Dysgu y tu allan i'r Ystafell Ddosbarth, a gall hyn helpu athrawon i oresgyn rhai o'r rhwystrau.
Diweddariad: Bil Addysg Awyr Agored (Cymru)
· Rhoddodd y Cadeirydd amlinelliad byr o'r Bil Addysg Awyr Agored, gan egluro’r broses ar gyfer Aelodau'r meinciau cefn. Cafwyd diweddariad gan Gareth Rogers a Michael Dauncey ynghylch y sefyllfa ddiweddaraf o ran y Bil.
· Daeth yr ymgynghoriad ynghylch y cynigion ar gyfer y Bil Addysg Awyr Agored i ben ar 17 Mawrth. Mae'r ymatebion yn cael eu dadansoddi ar hyn o bryd. Cafwyd 174 o ymatebion – 83 gan sefydliadau a 91 gan unigolion. Cyflwynwyd 49 o’r 174 o ymatebion a ddaeth i law gan y sector addysg awyr agored.
· Mae’r arwyddion cynnar yn awgrymu bod cefnogaeth eang ar gyfer yr egwyddorion sy’n sail i’r cynigion ac ar gyfer yr angen am ddeddfwriaeth. Yn yr achosion lle’r oedd lleiafrif bach o ymatebwyr wedi dweud eu bod yn anghytuno â’r cynigion neu wedi codi pryderon yn eu cylch, roedd y rhesymau a roddwyd gan amlaf yn ymwneud â materion staffio a’r cyllid y bydd ei angen.
· Mae crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad yn cael ei baratoi ar hyn o bryd. Bydd yr holl ymatebion a gafwyd yn sgil yr ymgynghoriad, a chrynodeb ohonynt, yn cael eu cyhoeddi, a byddant ar gael i bawb.
· Y cam mawr nesaf yn y broses yw drafftio’r Bil ei hun. Mae’r broses o baratoi cyfarwyddiadau drafftio cyfreithiol wedi dechrau, a’r nod yw cael fersiwn derfynol cyn diwedd mis Ebrill, cyn eu hanfon at Gwnsler allanol, a fydd yn drafftio’r Bil. Bydd yr ymatebion a gafwyd yn sgil yr arolwg yn helpu’r broses o lunio'r amcanion polisi terfynol, a fydd yn cael eu bwydo i mewn i'r cyfarwyddiadau drafftio.
· Dylai’r Bil drafft fod yn barod i’w gyhoeddi cyn yr haf. Mae’n bosibl y bydd cyfnod o ymgynghori ar y Bil drafft yn dilyn hynny.
· Bydd angen cyflwyno’r Bil terfynol gerbron y Senedd erbyn 26 Tachwedd. Ar yr adeg honno, bydd y Bil yn cychwyn ei daith drwy brosesau ffurfiol y Senedd, a fydd yn cynnwys gwaith craffu gan bwyllgorau’r Senedd ac Aelodau o’r Senedd yn y Siambr. Bydd cyfle i randdeiliaid gyfrannu at y broses ffurfiol honno a chefnogi’r Bil, gan gynnwys drwy’r grŵp trawsbleidiol hwn.
· Mae Dave Harvey bellach wedi dechrau yn y rôl lle bydd yn cefnogi’r gwaith ymchwil a’r gwaith ymgynghori a gaiff ei wneud wrth i’r Bil fynd rhagddo.
Crynodeb o'r cyfarfod a thrafodaeth gyffredinol
Croesawodd Cefin Campbell y wybodaeth ddiweddaraf, gan ddweud ei bod yn ddefnyddiol. Cynigiodd dreulio amser dros yr wythnosau nesaf yn ystyried y posibilrwydd o wneud cyflwyniadau mewn perthynas â gwelliannau sy’n ymwneud â’r Bil Amaeth.
Cododd Huw Irranca-Davies y mater o sicrhau mynediad at ddŵr a phwysigrwydd cadw’r mater hwn hyn ar yr agenda, er gwaethaf yr anawsterau gwleidyddol sydd ynghlwm ag ef. Mae angen mynd i’r afael â’r mater ar sail statudol, a hynny er mwyn cydnabod anghenion defnyddwyr cyfrifol. Mae'r grŵp trawsbleidiol mewn sefyllfa dda i symud y mater hwn yn ei flaen.
Nodwyd ei bod yn bwysig sicrhau mynediad ehangach at ddŵr ar gyfer y sector dysgu a’r sector addysg awyr agored, a chroesawodd aelodau’r grŵp unrhyw ymdrechion pellach tuag at ddiwygio’r system.
Tynnwyd sylw at y gwaith cadarnhaol y mae defnyddwyr dŵr yn ei wneud i wella amgylcheddau dŵr (er enghraifft, cael gwared ar sbwriel), ond mynegwyd siom nad yw'r ymdrechion i ddiwygio’r system wedi symud ymlaen sawl blwyddyn yn ddiweddarach.
Camau i’w cymryd yn sgil y cyfarfod
CAM I’W GYMRYD: Aelodau’r Gynghrair Awyr Agored i baratoi deunydd briffio a chwestiynau posibl i Weinidogion ar gyfer Aelodau o’r Senedd mewn perthynas â’r Bil Amaeth a mynediad.
CAM I’W GYMRYD: Gwaith pellach i archwilio lleoliad ar gyfer y cyfarfod nesaf, gan gynnwys gweithgaredd awyr agored i aelodau.
Y cyfarfod nesaf:
Ffocws arfaethedig ar y materion a ganlyn: diogelwch yn yr awyr agored; gwaith y Bartneriaeth Awyr Agored ar y fframweithiau dysgu ym maes antur; gwaith ymchwil ar werth economaidd y sector awyr agored; a mynediad at ddŵr.
Dyddiad / Amser / Lleoliad: i'w gadarnhau / Mehefin 2023 / Yn y cnawd i'w gadarnhau / Gogledd Cymru dros dro